Skip to main content
BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Y gwasanaeth gofrestru untro ar gyfer cymorth busnes ar-lein Llywodraeth Cymru

Mae Sign on Cymru yn wasanaeth cofrestru untro sy'n rhoi mynediad i nifer o wasanaethau Llywodraeth Cymru i helpu i gefnogi busnesau yng Nghymru. I ddechrau, cofrestrwch gydag unrhyw un o'n gwasanaethau isod.

Gwasanaethau sydd ar gael

Gan ddefnyddio tiwtorialau hawdd eu cyrchu, mae BOSS yma i'ch helpu chi a'ch busnes i ddatblygu.

Porth gwybodaeth a chaffael yw GwerthwchiGymru a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

Drwy ymuno â'r Gofrestr Rhanddeiliaid gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am feysydd polisi a gwasanaeth Llywodraeth Cymru sy'n bwysig i chi.

Mae'r Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag yn caniatáu i gyflogwyr hysbysebu a rheoli swyddi prentisiaeth gwag ac yn caniatáu i brentisiaid y dyfodol chwilio am gyfleoedd.

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyfieithu a chynghori Cymraeg rhad ac am ddim, cyflym a chyfeillgar i'ch helpu i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eich busnes neu elusen. Gall defnyddio ychydig bach o Gymraeg wneud gwahaniaeth mawr.

Bydd y Canfyddwr Cyllid yn eich helpu i ddod o hyd i grantiau a benthyciadau busnes. Os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano, gallwch greu rhybuddion i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Rhestrwch eich busnes ar Gyfeirlyfr Busnesau Cymru i hyrwyddo eich nwyddau, eich gwasanaethau a'ch manylion adnabod i fusnesau a defnyddwyr eraill drwy ei offeryn chwilio hawdd ei ddefnyddio.

Bydd y Pecyn Cymorth ar gyfer y dyfodol hwn helpu chi ar eich siwrnai at feithrin cadernid, ffyniant a gwell amgylchedd ar gyfer eich busnes a chenedlaethau’r dyfodol

Manteision

Sign on Cymru

Heb gofrestru eto, dilynwch y 3 cham hawdd i ddechrau cael gafael ar gymorth heddiw.

Cofestru

Eisoes wedi cofrestru? Yn syml, mewngofnodwch i weld eich cyfrif.